Mae Banc Barclays wedi cyhoeddi y bydd banc Bangr yn cau ar y 10fed o Fai. Mae hyn yn andros o ergyd i'r ddinas.
Rydym wedi ysgrifennu llythyr agored i Barclays yn gofyn iddy nhw ail-gysidro'r penderfyniad yma. Os gwelwch yn dda, os hoffwch ymuno a'r alwad i gadw Banc Barclays Bangor ar agor, rhowch eich enw i'r llythyr drwy'r linc isod.
"Annwyl Barclays,
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn ysgrifennu i fynegi ein pryder ynghylch cau cangen Bangor, Gwynedd.
Mae'n adnodd hanfodol i lawer, nid yn unig ym Mangor, ond mewn ardal ddaearyddol eang ac mae trigolion, busnesau lleol, masnachwyr marchnad a myfyrwyr (lleol a rhyngwladol) yn dibynnu ar yr adnodd pwysig hwn. Mae'n achubiaeth i'r rhai sydd angen gweithio gydag arian parod, y rhai na allant gael mynediad at wasanaethau ar-lein, a'r rhai sydd angen cymorth wyneb yn wyneb.
Ers i ganghennau Barclays yn Llangefni, Caernarfon a Phorthmadog gau, mae cangen Bangor wedi gwasanaethu ardal eang, a dyma'r unig gangen stryd fawr ar ôl yng Ngwynedd a Môn. Bydd colli’r gangen hon yn golygu nid yn unig y bydd trigolion Bangor yn wynebu taith gron o 40 milltir i gael mynediad at wasanaethau cangen, ond bydd y rhai ar Ynys Môn neu Orllewin Gwynedd yn wynebu llawer mwy.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn ysgrifennu i ofyn i chi ailystyried y penderfyniad hwn, a chadw cangen Bangor, Gwynedd, ar agor.
Gyda diolch,"
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter