Annwyl Barclays,
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn ysgrifennu i fynegi ein pryder ynghylch cau cangen Bangor, Gwynedd.
Mae'n adnodd hanfodol i lawer, nid yn unig ym Mangor, ond mewn ardal ddaearyddol eang ac mae busnesau lleol, masnachwyr marchnad a myfyrwyr (lleol a rhyngwladol) a thrigolionyn dibynnu ar yr adnodd pwysig hwn. Mae'n achubiaeth i'r rhai sydd angen gweithio gydag arian parod, y rhai na allant gael mynediad at wasanaethau ar-lein a'r rhai sydd angen cymorth wyneb yn wyneb.
Ers i ganghennau Barclays yn Llangefni, Caernarfon a Phorthmadog gau, mae cangen Bangor wedi gwasanaethu ardal eang, a dyma'r unig gangen stryd fawr ar ôl yng Ngwynedd a Môn.
Bydd colli’r gangen hon yn golygu nid yn unig y bydd trigolion Bangor yn wynebu taith gron o 40 milltir i gael mynediad i wasanaethau cangen, ond bydd y rhai ar Ynys Môn neu Orllewin Gwynedd yn wynebu llawer mwy.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn ysgrifennu i ofyn i chi ailystyried y penderfyniad hwn.
Gyda diolch,
Pawb wedi'u llofnodi isod