Ymgeisydd yn galw am ddad-droseddoli erthyliad

Mae Catrin Wager, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth newydd Bangor Aberconwy, wedi ysgrifennu at y tri AS sy’n cynrychioli’r etholaeth ar hyn o bryd, i ofyn iddynt gefnogi gwelliannau a allai ddod gerbron Tŷ’r Cyffredin yr wythnos hon.

 

Mae Catrin yn ymuno â’r Meddygon ac academyddion sy’n galw am newid brys i gyfraith 1861 sy’n golygu bod erthyliad yn dal yn dechnegol yn anghyfreithlon, heb ganiatâd meddygol, a allai adael merched sy’n terfynu beichiogrwydd mewn perygl o gael eu dedfrydu i garchar.

 

Fel yr eglura Catrin Wager:

“Fel y mae, yn dechnegol, gallai merched ddal i gael eu herlyn am erthyliad oherwydd deddfwriaeth sy’n dyddio’n ôl i 1861. Er bod Deddf Erthylu 1967 yn dad-droseddoli erthyliad mewn rhai amgylchiadau, mae wedi’i fframio mewn ffordd nad yw’n golygu bod erthyliad yn hawl. Yn lle hynny, mae'n eithrio menyw rhag cael ei herlyn pan fydd dau feddyg yn cytuno y byddai'r beichiogrwydd yn risg i'w hiechyd corfforol neu feddyliol.

 

“Mae hyn yn gadael merched sy’n cynnal erthyliad mewn perygl o gael eu herlyn a thra bod achosion yn brin, maen nhw’n cynyddu. Roedd 6 erlyniad yn Lloegr yn 2023, ac mae’n rhaid fod straen yr erlyniadau hyn ar y merched yma yn aruthrol. Dyna pam mae dad-droseddoli erthyliad mor bwysig. Mae’n rhoi eglurder a sicrwydd na fydd merched sy’n cael erthyliad yn cael eu herlyn.”

 

Bydd y Mesur Cyfiawnder Troseddol yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon, sy’n ymdrin ag amrywiaeth o faterion. Mae ASau wedi cyflwyno gwelliannau i’r mesur i geisio cynnwys dad-droseddoli erthyliad. Yn ôl Dr Jonathan Lord, cyd-gadeirydd tasglu erthylu Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr, wrth siarad yn y Financial Times yr wythnos diwethaf “Mae yna frys gwirioneddol i newid y gyfraith i fynd i’r afael ag ymchwydd gwirioneddol yn nifer yr achosion o fenywod sydd yn cael eu ymchwilio.”

 

Fel yr eglura Catrin: “Brys y sefyllfa hon yw pam yr wyf wedi ysgrifennu at y tri AS sy’n cynrychioli Bangor Aberconwy ar hyn o bryd, yn gofyn iddynt gefnogi’r gwelliannau i ddad-droseddoli erthyliad. Rydym wedi gweld datblygiadau brawychus yn UDA wrth i’r hawl i erthyliad gael ei gymryd i ffwrdd mewn rhai taleithiau – ni allwn ganiatáu i hynny ddigwydd yma.

 

“Mae yna bob math o resymau pam fod merched yn ddewis ceisio erthyliad, a rhaid i ni beidio â chael ein rhoi mewn perygl o gael ein herlyn o’r herwydd. Mae menywod wedi brwydro’n hir ac yn galed dros eu hawliau, a rhaid peidio â chymryd cam yn ôl nawr.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Catrin Gruffudd
    published this page in Newyddion 2024-05-13 09:46:32 +0100

Ymuna â'r ymgyrch!

Helpa i sicrhau llais cryf dros holl gymunedau Bangor Aberconwy yn San Steffan. Ymuna efo ymgyrch Catrin isod: