Mae Catrin Wager, ymgeisydd Plaid Cymru, wedi bod yn ymweld â sioeau gwledig ar draws etholaeth newydd Bangor Aberconwy dros yr haf, ac mae’n pwysleisio eu pwysigrwydd.
Dywedodd Catrin:
“Dwi’n credu y gallwn daclo rhai o’r heriau enfawr da ni’n eu hwynebu drwy edrych wrth ein traed. Mae na nerth yn ein cymunedau, a thrwy weithredu ar lefel leol, gallwn ddechrau ail-adeiladu ein heconomi, creu dyfodol cynaliadwy, ac ail-gysylltu fel unigolion.
“Mae ein sioeau gwledig yn arddangos rôl hanfodol y diwydiant amaeth mewn creu’r dyfodol yma. Mae amaethwyr Bangor Aberconwy yn cynhyrchu bwyd o safon, ac mae’n bwysig eu bod yn cael y gynhaliaeth a’r gefnogaeth maent yn eu haeddu. Ond yn ogystal â hynny, mae ein ffermydd teuluol yn asgwrn cefn ein cymunedau gwledig ledled yr etholaeth; yn cynnal ein diwylliant, ein traddodiadau a’n iaith, ac mae sioeau gwledig yn ddathliad o hynny.
“Gallwn greu dyfodol cynaliadwy, mewn sawl ffordd, drwy gefnogi ein diwydiant bwyd lleol a’n amaethwyr, a drwy wneud hynny, gallwn sicrhau fod traddodiadau cymunedol arbennig fel ein sioeau gwledig yn parhau.”
“O Ddyffryn Ogwen i Lanrhaeadr, Llansannan Ysbyty Ifan, mae’r croeso wedi bod yn gynnes ar draws yr etholaeth, a hoffwn ddiolch i bawb sydd yn rhan o’r sioeau yma, boed yn drefnwyr neu’n gystadleuwyr, am eu gwaith caled – da chi’n rhan o rywbeth arbennig iawn.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter