Criw Ysgol Pendalar yn Cefnogi Gardd Gymunedol ym Mangor
“Rydym yn falch o allu cydweithio efo Ysgol Pendalar yng Nghae Doctor”, medd y cynghorydd lleol Elin Walker Jones yn dilyn ymweliad criw o fyfyrwyr o’r ysgol â’r safle yn ddiweddar.
Gardd gymunedol ger Maestryfan, Bangor ydy Cae Doctor. Nôl yn 2021, roedd y safle yn ddarn diffaith o dir, lle roedd cŵn yn bawa, a’r lle yn llawn sbwriel, offer cyffuriau a gordyfiant. Erbyn hyn, mae’n ardd arbennig sydd wedi cael ei datblygu gan y gymuned leol. Sicrhawyd grant Llywodraeth Cymru drwy law Môn a Menai i drawsnewid yr ardd i’r llecyn hyfryd ydi o heddiw. Daeth trigolion lleol ynghyd yn wreiddiol i fynegi pryderon am gyflwr offer y cae chwarae, a sefydlwyd Grŵp Cymunedol Maestryfan Community Group (GCMCG). Mae’r Grŵp wedi mynd o nerth i nerth, wedi sicrhau offer newydd i’r cae chwarae, trawsnewid Cae Doctor a threfnu digwyddiadau rheolaidd yn ogystal â darparu cefnogaeth ymarferol i drigolion lleol yn ôl yr angen.
Mae’n diolch i’r diweddar Rosie Frankland am gefnogi’n cynllun i greu yr ardd. Roedd Rosie yn gweithio i Mon a Menai, ac yn gyfrifol am gefnogi’r cynlluniau a fu’n ddigon ffodus i ennill pres grant o’r Cynllun. Mae’n ardd hygyrch gyda gwlâu plannu uchel a llwybrau sydd yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn, ac yn cynnwys elfennau o ardd wyllt i gefnogi bioamrywiaeth yn lleol. Ar ôl gwaith caled gan y gymuned leol, agorodd Cae Doctor yn swyddogol yn 2024.
Mae’r cynghorydd lleol, Cyng. Elin Walker Jones, wedi bod yn rhan o’r siwrne o’r cychwyn, ac roedd yn arbennig o falch o weld digyblion Ysgol Pendalar yn chwarae rhan yn y prosiect cymunedol arbennig yma.
Dywed Elin “Dwi mor falch o'r cydweithredu. Dyma ddangos y buddion daw o gyd-weithio ar brosiect cymunedol. Mae’n gyfle i'r bobl ifanc gael profiad gwaith tu allan i'r ysgol, a'n gardd ni'n elwa o'u cyfraniad. Y bwriad ydy i gynnal y sesiynnau yma unwaith y mis, gyda’r disgyblion yn gweithio tuag at eu gwobr Dug Caeredin.
Daeth y myfyrwyr â choeden geirios efo nhw, ac fe blannwyd y goeden y bore hwnnw yn yr ardd ganddynt er cof am Rosie. Mawr yw ein diolch i Rosie, ac hefyd i ddisgyblion a staff Ysgol Pendalar. Mae Clwb garddio yn gweithio yn yr ardd yn rheolaidd, ac mae croeso i unrhywun ymuno efo ni, i gael blas o fod yn yr awyr iach, a chadw’r ardd yn edrych yn wych!
Mae gweithredu ar lefel gymunedol yn greiddiol i werthoedd Blaid Cymru. Drwy weithredu ar lawr gwlad, gallwn wneud gwahaniaeth mawr.
“Diolch mawr i’r criw am ddod draw” medd Elin “mae'n fraint cael treulio amser yng nghwmni pobl ifanc mor hyfryd, ac mae’r ffaith ein bod yn gallu gwneud hynny tra hefyd yn cyfrannu at ein cymuned yn wych!”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter