“Trwy gymryd safiad, gallwn wneud gwahaniaeth”
Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r newyddion bod cynlluniau i gau pump o orsafoedd tân ar alwad ar draws Gogledd Cymru wedi cael eu dileu gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Dywedodd Catrin Wager, a sefydlodd ddeiseb i frwydro yn erbyn ‘Opsiwn 3’ a fyddai wedi gweld nifer y diffoddwyr tân rheng flaen yn cael eu torri o 74 ar draws Gogledd Cymru, a 5 gorsaf ar alwad yn cau, yn dweud ei bod wrth ei bodd gyda’r newyddion: “Penderfyniad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru heddiw yw i dynnu opsiynau 2 a 3 oddi ar y bwrdd sydd yn golygu bod y mesurau mwyaf eithafol i dorri un o bob wyth diffoddwr tân ar draws gogledd Cymru wedi cael eu dileu i bob pwrpas.”
"Roedd pobl yng Nghonwy, Cerrigydrudion a thu hwnt wedi'u brawychu gan feddwl am golli eu gorsafoedd tân lleol, ac yn gwrthwynebu'n gryf y golled enfawr o 74 o swyddi rheng flaen. Pe bai angen y gwasanaeth tân arnom byth, byddem i gyd eisiau iddynt allu cyrraedd yno cyn gynted â phosibl. Byddai’r toriadau llym a oedd yn cael eu hawgrymu wedi rhoi bywydau mewn perygl, ac rwy’n meddwl bod pobl wedi gweld hynny.”
Mae'r Cynghorydd Gwennol Ellis, sy'n cynrychioli un o'r cymunedau a fyddai wedi colli eu gorsaf dân yn cytuno. Fel yr eglura “Rydym yn byw mewn ardal wledig a gall fod yn anodd dod o hyd i’n ffermydd anghysbell. Mae’r criw yma yn lleol, ac maen nhw yn y sefyllfa orau i gyrraedd tân yn gyflym oherwydd eu bod yn adnabod yr ardal mor dda, ac maen nhw jyst lawr y ffordd. Byddai cau’r orsaf hon wedi bod yn golled enfawr i’r gymuned."
Daeth 427 o lofnodion i'r ddeiseb a ddechreuwyd gan Catrin Wager a'r Cynghorydd Ellis. Mae Catrin Wager yn nodi:
“Mae’r ffaith bod cymaint o bobl wedi arwyddo ein deiseb yn dangos cryfder y teimlad sy’n bodoli ar y mater hwn. Mae hefyd yn dangos, trwy ddod at ein gilydd i sefyll yn erbyn pethau sy'n anghywir, y gallwn wneud gwahaniaeth. Diolch i bawb a arwyddodd, clywyd ein lleisiau. A diolch i’r Awdurdod Tân ac Achub am wrando.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter