Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wrthi'n ymgynghori ynglŷn â'r modd y byddent yn rhedeg eu gwasanaethau yn y dyfodol. Maent yn cynnig tri opsiwn i ni.
Mae un o'r rhain (Opsiwn 3) yn cynnwys cau 5 gorsaf dân 'ar-alwad', gan gynnwys Cerrigydrudion a Chonwy. Byddai Opsiwn 3 yn golygu colli 74 diffoddwr tân (36 llawn amser a 38 ar-alwad).
Teimlwn fod cadw'r gwasanaethau tân lleol yn bwysig. Mewn argyfwng, gorsafoedd tân lleol yw'r ffordd orau i gyrraedd pobl yn gyflym - maent yn agosach ac yn adnabod eu hardal yn dda, gan arbed amser sy'n hollbwysig.
Mae'r diffoddwyr tân yn peryglu eu bywydau i'n hachub ni, ac maent yn rhan o'n cymunedau.
Dyna pam rydym ni, yn dweud NA wrth Opsiwn 3 - Achubwch ein Gorsafoedd Tân.